'Ni ddylai unrhyw athro deimlo'n ofnus am ei ddiogelwch'

Mae merch 14 oed wedi ei chael yn euog o geisio llofruddio dwy athrawes a disgybl yn Ysgol Dyffryn Aman.

Cafodd Liz Hopkin, Fiona Elias a disgybl eu trywanu yn ystod amser egwyl yn yr ysgol yn Rhydaman ar 24 Ebrill 2024.

Roedd y ferch, na allwn ei henwi am resymau cyfreithiol, yn cyfaddef iddi drywanu'r tair, ond yn gwadu tri chyhuddiad o geisio llofruddio.

Roedd hi'n ddi-emosiwn wrth i'r rheithgor gyhoeddi'r dyfarniadau, ac mae disgwyl iddi gael ei dedfrydu cyn diwedd Ebrill.

Yn darllen datganiad y tu allan i'r llys wedi'r dyfarniad, dywedodd Fiona Elias: "Fel rhiant ac athrawes, does neb eisiau gweld merch yn cael ei chosbi am geisio llofruddio.

"Fodd bynnag, roedd y digwyddiad ar 24 Ebrill yn gwbl annerbyniol.

"Mae'r euogfarn yma heddiw yn ddyfarniad mor bwysig - nid yn unig i fi, ond i bob athro.

"Ni ddylai unrhyw aelod o staff mewn ysgol deimlo'n ofnus am ei ddiogelwch ei hun wrth gyflawni dyletswyddau o ddydd i ddydd, a gofyn i ddisgyblion gydymffurfio gyda rheolau'r ysgol."

Ychwanegodd ei bod yn diolch i'w theulu a'i ffrindiau, a chymuned Ysgol Dyffryn Aman, ond bod ganddi ddiolch arbennig i Liz Hopkin.

"Oni bai am ei dewrder hi, mae'n bosib na fydden i yma heddiw. Mae fy nyled yn fawr i ti Liz, a nid yw'r gair 'diolch' yn ddigon."