'Grêt' gweld ffilm arswyd o Gymru ar gael yn fyd-eang

Mae ffilm arswyd o Gymru, The Mill Killers, wedi cael ei rhyddhau yn fyd-eang yr wythnos hon ar blatfformau digidol fel Apple TV ac Amazon Prime.

Mae'r ffilm wedi ennill sawl gwobr ers ei lansiad yng Ngŵyl FrightFest Llundain ym mis Awst 2024, gan gynnwys 'Ffilm Nodwedd Orau' yng Ngŵyl Ffilm Ryngwladol Cymru a Gŵyl Ffilm Ryngwladol Caerdydd.

Cafodd ei chynhyrchu gan gwmni bach annibynnol o Gaerfyrddin - Melyn Pictures.

Roedd Aled Owen – yr awdur, cyfarwyddwr a chynhyrchydd – yn westai ar raglen Dros Frecwast i drafod y ffilm.

Dywedodd ei bod yn grêt gweld y ffilm yn cyrraedd cynulleidfaoedd byd-eang, gan mai bwriad y cwmni ydy "rhoi Cymru ar y llwyfan rhyngwladol".