Dedfrydu dyn am achosi marwolaeth trwy yrru'n ddiofal
Mae dyn o Ferthyr Tudful wedi ei wahardd rhag gyrru am bum blynedd ar ôl pledio'n euog i achosi marwolaeth trwy yrru'n ddiofal.
Bu farw Gareth Davies, 43, ar ôl i'w Renault Clio gael ei daro gan Ford Ka Dale Groves ar 13 Ebrill 2023 yn Sir Caerffili.
Roedd Groves, 30, wedi cael ei ganfod yn ddieuog yn gynharach eleni o achosi marwolaeth trwy yrru'n beryglus.
Ond fe gafodd ei ddedfrydu yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Gwener ar ôl cyfaddef achosi marwolaeth trwy yrru'n ddiofal.
Yn ogystal â chael ei wahardd rhag gyrru am bum mlynedd, cafodd Groves ei ddedfrydu i 10 mis o garchar, wedi'i ohirio am ddwy flynedd, a bydd yn rhaid iddo gwblhau 250 o oriau o waith cymunedol di-dâl.
Fe wnaeth teulu Gareth Davies gytuno i ryddhau fideo cylch cyfyng o'r gwrthdrawiad i ddangos peryglon gyrru diofal.