'Mae'r flwyddyn a hanner ddiwethaf wedi bod yn uffern'

Ers blynyddoedd mae Angharad Rees wedi brwydro i ganfod atebion i'w phroblemau iechyd, sydd wedi bod yn gwaethygu dros amser ac effeithio ar ansawdd ei bywyd.

Yn 44 oed ac wedi symud nôl i dŷ ei rhieni yn Llandegla, Sir Ddinbych, mae'n dweud iddi "gael ei phasio o un adran ysbyty i'r llall" wrth geisio canfod atebion.

“Mae’r flwyddyn a hanner diwethaf wedi bod yn uffern," meddai.

"Dros flwyddyn a hanner yn ôl roeddwn yn gweithio llawn amser, yn gallu cerdded milltiroedd, allan gyda ffrindiau yn mwynhau bywyd.

"Ond yn anffodus dros y flwyddyn dwytha' dwi ddim wedi gallu gwneud hynny."

A hithau eisoes wedi derbyn diagnosis o lid briwiol y coluddyn a chyflwr hunan imiwnedd, yn gynharach eleni fe dderbyniodd Angharad ddiagnosis o Syndrom Ehlers-Danlos.

Mae'n gyflwr sy'n effeithio ar y cymalau, gan effeithio cymaint â un ymhob 500 o bobl.

Mae hi nawr yn y broses o geisio sicrhau ail farn feddygol ar ôl i'r diagnosis gael ei wyrdroi gan ei hysbyty lleol.