Y Gymraeg yn rhoi 'cysylltiad gwell gyda fy Mam-gu'

Mae dyn ifanc o Ohio wedi bod yn dysgu Cymraeg ers dros flwyddyn er mwyn dod i "'nabod Mam-gu yn well".

Fe wnaeth Rhys Davis, 19, o Oak Hill - ardal sydd â chysylltiadau hanesyddol gyda Chymru - ddechrau dysgu’r iaith gan ddefnyddio ap Say Something in Welsh (SSiW) ychydig dros flwyddyn yn ôl.

Bwriad Rhys, sydd bellach wedi cwblhau cwrs iaith SSiW, oedd dod yn agosach at Elizabeth Davis, ei Fam-gu, a "deall mwy" am ei hanes "ai stori hi".

Fe wnaeth Elizabeth, 74, symud o Aberaeron i’r Unol Daleithiau yn 24 oed yn 1974, cyn cyfarfod a’i gŵr a phenderfynu ymgartrefu yno.

Aeth y pâr ymlaen i sefydlu Canolfan Madog ar gyfer astudiaethau Cymreig o fewn Prifysgol Rio Grande yn 1996 - yr unig ganolfan o’i fath yng Ngogledd America.