Y Seintiau eisiau 'rhoi'r gynghrair a'r wlad ar y map'

Bydd Y Seintiau Newydd yn chwarae'r gêm fwyaf yn hanes y clwb nos Iau, wrth iddyn nhw herio cewri Fiorentina yn Yr Eidal.

Y Seintiau yw'r clwb cyntaf o gynghreiriau Cymru i gyrraedd rownd y grwpiau - neu rownd y gynghrair fel yw hi o eleni ymlaen - yn un o brif gystadlaethau Ewrop.

Fe fyddan nhw hefyd yn herio Djurgårdens o Sweden, Astana o Kazakhstan, Shamrock Rovers o Weriniaeth Iwerddon, Panathinaikos o wlad Groeg a Celje o Slofenia yng Nghyngres UEFA eleni.

Yn siarad gyda BBC Cymru cyn gwneud y daith i'r Eidal, dywedodd y chwaraewr canol cae Leo Smith mai'r nod ydy "rhoi'r gynghrair a'r wlad ar y map".

Ychwanegodd Smith, o Borthmadog, eu bod yn gobeithio "rhoi gêm dda iddyn nhw, a dangos iddyn nhw 'da ni yma am reswm hefyd".