Eisteddfod 2024: 'Cewri'r genedl' yn cael eu hurddo
Mae 49 o aelodau newydd wedi cael eu hurddo i Orsedd Cymru ar faes yr Eisteddfod ym Mhontypridd fore Gwener.
Yn eu plith oedd y cyn-bostfeistr o Fôn, Noel Thomas, a gafodd ei garcharu ar gam fel rhan o helynt cyfrifiaduron Horizon Swyddfa'r Post.
Fe gododd y gynulleidfa ar eu traed wrth iddo ysgwyd llaw'r archdderwydd Mererid Hopwood.
Ar ôl y seremoni dywedodd Mr Thomas: "Wnes i 'rioed meddwl byswn i byth yn gwisgo'r wisg las 'ma a bod yn bart o'r Orsedd i ddweud y gwir."
"Mae hwn i'r dros 500 arall sydd wedi bod drwy'r un peth.'
Cafodd mam a merch eu derbyn eleni hefyd - yr arbenigwr bwyd Nerys Howell, a'i merch, y chwaraewr rygbi Elinor Snowsill, enillodd 76 o gapiau dros Gymru cyn ymddeol y llynedd.
Dywedodd Ms Howell fod y profiad yn "anhygoel, ac emosiynol tu-hwnt."
Dywedodd y cyn-Aelod Seneddol Geraint Davies ei fod yn "anhygoel, i fod gyda chewri’r genedl a fi just yn ddyn bach - oedd e’n anhygoel, oedd e’n fraint anhygoel i fod 'na."
Hefyd yn cael ei urddo oedd cyfarwyddwr BBC Cymru, Rhuanedd Richards a'r cyflwynydd Gerallt Pennant.