Dewi Lake: 'Rhaid gweithredu'r hyn ry'n ni 'di dysgu'

Mae capten Cymru Dewi Lake yn gobeithio bod ei dîm wedi rhoi’r siom o golli yn erbyn Awstralia yn Sydney o’r neilltu cyn wynebu’r Wallabies eto ym Melbourne ddydd Sadwrn.

Fe gollodd Cymru 25-16 y penwythnos diwethaf yn y prawf cyntaf, sy’n golygu eu bod nhw bellach wedi colli eu wyth gêm ddiwethaf.

Bydd Cymru yn gobeithio unioni’r gyfres a dod a’u rhediad siomedig i ben ac ennill yn erbyn y Wallabies yn Awstralia am y tro cyntaf ers 1969.