Ffermwyr yn protestio ym mhorthladdoedd Caergybi ac Abergwaun
Bu ffermwyr yn protestio mewn porthladdoedd yng ngogledd a de Cymru nos Iau.
Daeth pobl at ei gilydd ym mhorthladdoedd Caergybi ac Abergwaun, gan rwystro rhai lorïau rhag symud oddi yno am rai oriau.
Mae adroddiadau fod cannoedd o bobl yn bresennol, gyda nifer wedi dod â thractorau yno.
Dywedodd un ffermwr o Langynin, Sir Gâr - Adrian Roberts - ar Dros Frecwast fod y brotest er mwyn "cael y neges drosodd i'r llywodraeth Llafur 'ma, sydd ddim yn gwrando arnon ni fel amaethwyr".