Jenny Randerson eisiau 'newid pethau i bawb dros Gymru' - Dodds
Mae'r gwleidydd, y Farwnes Jenny Randerson, wedi marw yn 76 oed, mae'r Democratiaid Rhyddfrydol wedi cadarnhau.
Bu farw yn ei chartref yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn.
Dywedodd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig bod y Farwnes Randerson wedi "rhoi ei bywyd i wasanaethu pobl Caerdydd a Chymru", a'i bod eisiau "newid pethau i bawb dros Gymru".