Y Coridor Ansicrwydd: Bellamy yn closio at y cefnogwyr
Pedwar mis i mewn i'w gyfnod fel rheolwr Cymru, mae Craig Bellamy wedi bod yn ddyn prysur iawn.
Yn ogystal â chwarae pedair gêm - gyda dwy arall i ddilyn cyn diwedd y mis - mae Bellamy hefyd wedi bod ar grwydr ledled Cymru i gyfarfod cefnogwyr a hyfforddi plant.
Yn ôl cyn-chwaraewr canol cae Cymru, Owain Tudur Jones, mae'r gwaith yma oddi ar y cae yn ei atgoffa o sut aeth Jurgen Klopp ati i greu perthynas arbennig gyda chefnogwyr Lerpwl yn gynnar yn ei amser wrth y llyw yn Anfield.
"Oedd y cysylltiad rhwng y chwaraewyr a'r cefnogwyr yn rhywbeth 'naeth helpu'r tîm gymaint - a helpu nhw i gael canlyniadau mewn gemau lle ella fasa nhw wedi colli," meddai ar Y Coridor Ansicrwydd.
"Dyna be' mae Bellamy yn ei ystyried - ydy hyn [ymweld â chlybiau] yn mynd i helpu ni gael canlyniad."