'Cymru yn benderfynol o gyrraedd Cwpan y Byd' - Ben Davies

Mae amddiffynnwr Cymru Ben Davies yn dweud fod y garfan yn benderfynol o gyrraedd Cwpan y Byd eto, yn dilyn eu perfformiadau siomedig yn Qatar yn 2022.

Fe gollon nhw eu gemau yn erbyn Lloegr ac Iran, a chael gêm gyfartal yn erbyn yr Unol Daleithiau, gan fethu â chyrraedd rownd yr 16 olaf.

Bydd tîm Craig Bellamy yn wynebu Kazakhstan yn Stadiwm Dinas Caerdydd nos Sadwrn yn eu gêm gyntaf yn rowndiau rhagbrofol Cwpan y Byd 2026.