Ryan Reynolds yn cwrdd â chefnogwyr Wrecsam
Dyma Ryan Reynolds yn cwrdd â chefnogwyr Wrecsam cyn y gêm hollbwysig yn erbyn Charlton Athletic.
Bydd Wrecsam yn sicrhau dyrchafiad i'r Bencampwriaeth os ydynt yn ennill.
Mae'r dyrchafiad yn bennod anhygoel arall yn hanes diweddar y clwb.
Fe wnaeth y sêr Hollywood, Rob McElhenney a Ryan Reynolds, brynu'r clwb ym mis Chwefror 2021 ac ers hynny maen nhw wedi mynd o nerth i nerth ar ôl treulio 15 mlynedd yn y bumed haen.
Bellach, mae actorion a cherddorion byd enwog ymhlith y rhai sydd wedi gwylio Wrecsam yn codi drwy'r cynghreiriau yn y Cae Ras, tra bod cynlluniau cyffrous i ddatblygu'r stadiwm ymhellach.