Ffestiniog: Gobeithio ailagor tafarn oedd 'yn galon i'r gymuned'
Mae grŵp cymunedol yn gobeithio ailagor tafarn yng Ngwynedd sydd wedi bod ar gau ers wyth mlynedd.
Roedd y Wynnes Arms ym Manod, Blaenau Ffestiniog yn arfer bod yn un o dafarndai mwyaf poblogaidd yr ardal.
Ond ers ei chau yn 2017 mae'r adeilad wedi bod yn segur a bellach ar werth, er bod caniatâd cynllunio mewn lle i'w throsi yn fflatiau.
Gobaith grŵp lleol, yn dilyn cyfarfod cyhoeddus diweddar, yw gallu ailagor y dafarn at fudd y gymuned.