'Llwyddiant cadwraeth' palod prin Sir Benfro
Mae bron i 44,000 o balod (puffins) wedi cael eu cofnodi oddi ar arfordir Sir Benfro.
Yn ôl Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru, mae ffigwr eleni o 43,626 o balod ar Ynys Sgomer yn gosod record newydd, gyda phob un ohonynt wedi'u cyfri yn systematig gan eu staff.
Gyda phoblogaeth palod yn dirywio'n gyflym yn fyd eang, mae'r ymddiriedolaeth yn dweud fod y cynnydd ar eu gwarchodfa natur yn stori o "lwyddiant cadwraeth"
Ond mae rhybudd bod y palod yn parhau i fod dan fygythiad, ac felly rhaid parhau i'w hamddiffyn.