Annette Bryn Parri 'fel cerddorfa ar y piano'

Mae'r gyfeilyddes a'r hyfforddwraig o Ddeiniolen, Annette Bryn Parri, wedi marw yn 62 oed.

Ers yn blentyn ifanc iawn roedd hi â'i bryd ar ganu'r piano a bu'n gyfeilydd i nifer o sêr - yn eu plith Bryn Terfel, Aled Jones, Rebecca Evans, Eirian James, Rhys Meirion, Gwyn Hughes Jones a Leah Marian Jones a Hogia'r Wyddfa.

Roedd hi'n gyfeilydd cyson yn y Brifwyl, Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd ac Eisteddfod Ryngwladol Llangollen, ac fe ymddangosodd droeon ar raglen Noson Lawen ar S4C.

Wrth roi teyrnged, dywedodd y telynor Dylan Cernyw ei bod hi "fel chwaer fawr" iddo.

"Un o'r goreuon, doedd dim byd yn poeni Annette... oedd hi just yn 'neud o, dim ffỳs, oedd hi fatha cerddorfa ar y piano - doedd o ddim just be sy' ar y copi, mi oedd hi'n adio pethau i'w wneud yn llawn," meddai.

Ychwanegodd eu bod yn agos iawn a bod Annette "wastad yn gwenu ac yn chwerthin".