'Dim reswm' i Gymru beidio curo Gwlad Belg - Ben Davies
Mae capten Cymru Ben Davies yn dweud fod yna "ddim rheswm" pam na allen nhw guro Gwlad Belg nos Lun, fel digwyddodd yn Euro 2016.
Mi fydd y ddwy wlad yn wynebu ei gilydd yn rowndiau rhagbrofol Cwpan y Byd 2026 ym Mrwsel.
Mae'r ddwy wlad wedi chwarae yn erbyn ei gilydd ar naw achlysur ers 2012, gyda buddugoliaeth fwyaf cofiadwy Cymru yn eu herbyn yn dod yn rownd wyth olaf Euro 2016 yn Lille.
Fe chwaraeodd Davies yn y gêm honno gan ei disgrifio hi fel "un o'r nosweithiau gorau dwi 'di gael yng nghrys Cymru".