'Yn y niwl o hyd' wedi anaf pen mewn gêm hoci

"Fyswn i just yn licio un diwrnod bod heb gur pen. Dyna ydy bywyd fi rŵan. Os mai damwain oedd o, pam bod insurance ddim yn cyfro fi?"

Roedd Claerwen Render, mam 42 oed, wrth ei bodd gyda chwaraeon o bob math, ond fe newidiodd popeth pan gafodd ei tharo yn ei phen gan bêl hoci yn 2019.

Ers hynny, mae'r fam i dri yn dioddef meigrynau a gorflinder ac mae ei hincwm wedi haneru ar ôl iddi orfod rhoi'r gorau i'w gyrfa fel aelod o dîm rheoli mewn ysgol uwchradd er mwyn gweithio'n rhan amser.

Ond wedi iddi fethu cael taliad yswiriant am ei hanaf gan y sefydliad sy'n llywodraethu'r gamp, mae'n amau gwerth tâl aelodaeth.

Yn ôl y corff hwnnw, Hoci Cymru, mae nhw wedi gwella'u polisiau ar anaf i'r pen ond mae rhagor i'w wneud i sicrhau bod chwaraewyr yn deall cyfyngiadau eu hyswiriant.