Clefyd Batten: 'Dan ni'n gwybod bod y gwaethaf yn mynd i ddigwydd'

Mae teulu merch 11 oed o Ben Llŷn eisiau codi ymwybyddiaeth o glefyd prin iawn sydd, medd ei mam, yn "dwyn plentyn bach ac yn chwalu teulu".

Cafodd teulu Anna Lowri Roberts o Sarn Mellteyrn wybod bod ganddi y math CLN3 o Glefyd Batten ym Mai 2022 - dim ond 39 sydd â'r union gyflwr yn y DU.

Fe gafodd Anna ei geni yn blentyn iach yn Ionawr 2014 – yn bedwaredd merch i Hywal a Laura.

Doedd dim awgrym bod dim byd mawr o'i le tan gyfnod Covid.

Yn 2020 fe waethygodd ei golwg, yn fuan wedyn dechreuodd gael ffitiau, roedd hi'n ei chael hi'n anodd gwneud gwaith ysgol ac yn 2022 wedi hir aros fe ddangosodd profion yn Ysbyty Alder Hey bod ganddi'r cyflwr.

"Mae ei speech hi bellach lot anoddach i'w ddeall. Mae'n cael mwy o drafferth cerdded ac mae ei thraed hi'n troi mewn," meddai ei mam Laura Ann Roberts.

"Dan ni'n gwybod bod y gwaethaf yn mynd i ddigwydd. Maen nhw wedi d'eud fydd hi ddim yn gallu cerdded yn diwedd, fydd hi ddim yn gallu siarad. Fydd hi ddim yn gallu bwyta.

"Maen nhw just wedi d'eud mai late teens, early twenties ydy'r life limit felly."

Ychwanegodd bod yr afiechyd yn effeithio ar y teulu cyfan.

"Mae'n straen mawr iawn ar y teulu. Mae ganddi dair chwaer hŷn – felly maen nhw'n gorfod gwatsiad ar ei hôl hi lot," meddai.

"Mae hi'n cael meltdowns reit ddrwg a ballu ac mae ganddi childhood dementia – mae pob dim yn ei drysu hi. Mae hi'n reit confused – mae mynd allan o'r tŷ yn anodd."