Atal y Fedal Ddrama: 'Rhaid parchu'r penderfyniad'
Mae prif weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol yn dweud fod y penderfyniad i atal y Fedal Ddrama wedi mynd "trwy broses o lywodraethiant" a bod "rhaid parchu'r penderfyniad".
Yn siarad mewn cynhadledd i'r wasg dydd Gwener, dywedodd Betsan Moses nad oedd y cystadleuwyr eu hunain wedi cael gwybod y rheswm, a'u bod nhw wedi derbyn yr un wybodaeth â phawb arall.
Mewn datganiad ddydd Iau, dywedodd yr Eisteddfod Genedlaethol: "Yn dilyn trafodaethau a gafwyd ar ôl cwblhau’r broses o feirniadu’r Fedal Ddrama, daethpwyd i’r penderfyniad bod yn rhaid atal y gystadleuaeth eleni.
"Yn ogystal, ni fydd beirniadaeth yn cael ei chyhoeddi yng nghyfrol y Cyfansoddiadau a Beirniadaethau.
"Bydd yr Eisteddfod yn adolygu prosesau a gweithdrefnau ein cystadlaethau cyfansoddi yn sgil y penderfyniad hwn."