'Dim un gymuned yn bwysicach na'r llall o ran y Gymraeg'
Fyddai cydnabod ardaloedd sydd efo canran uchel o siaradwyr Cymraeg ddim yn mynd ar draul ardaloedd eraill, medd cadeirydd y Comisiwn Cymunedau Cymraeg.
Dywed y Comisiwn bod angen dynodi "ardaloedd o arwyddocâd ieithyddol dwysedd uwch" i gryfhau'r iaith fel un gymunedol.
"Dyw e ddim yn fater o ddweud bod y naill gymuned yn bwysicach na'r llall, dydyn nhw ddim," meddai Dr Simon Brooks ar raglen Dros Frecwast BBC Radio Cymru.
"Neu ddweud bod y Gymraeg yn bwysicach mewn rhyw le yng Nghymru - dyw hi ddim. Mae'r Gymraeg yr un mor bwysig ym mhob man.
"Ond mae'r atebion 'dych chi eu hangen yn wahanol mewn gwahanol gymunedau."