Storm Darragh yn achosi difrod i Bier Llandudno
Mae Storm Darragh yn achosi trafferthion mawr ar draws Cymru, er i'r rhybudd tywydd mwyaf drifriol - rhybudd coch am wyntoedd cryfion - ddod i ben am 11:00.
Er bod yr amodau gwaethaf drosodd, parhau fydd y tywydd garw tan nos Sul gan fod rhybuddion oren a melyn am wynt a glaw mewn grym am rai oriau eto.
Ar draws Cymru mae yna adroddiadau o goed wedi syrthio, ffyrdd ar gau a difrod i eiddo a cherbydau.
Yn Llanduno, mae difrod wedi ei achosi i o leiaf un o'r adeiladau ar bier enwog y dref.