Alopesia: Colli gwallt yn 'brofiad ysgytwol'
Mae modd dysgu byw gydag alopesia a gwneud y gorau o bethau wedi'r sioc gychwynnol o wybod bod gennych chi'r cyflwr, medd rhai sydd wedi rhannu eu profiadau gyda BBC Cymru.
Fe wnaeth Elinor Williams gychwyn colli ei gwallt pan oedd ond yn 15 oed.
Wrth siarad ar Dros Frecwast, dywedodd iddi ddarganfod "patches moel o wallt ar ym mhen pan o'n i'n 15 oed yn yr ysgol uwchradd, ac ers ni fi 'di byw 37 mlynedd gyda'r cyflwr".
Er iddi allu rheoli'r cyflwr tra yr oedd yn yr ysgol, dywedodd i'r cyflwr "waethygu nes bod e i gyd yn cwympo mas mewn mater o wythnosau" yn fuan wedi iddi roi genedigaeth i'w merch.
Fe ddisgrifiodd y profiad fel un "erchyll" a'i fod wedi cael "effaith ysgytwol" ar ei hunan hyder.
A hithau wedi penderfynu peidio gwisgo wig, dywedodd iddi "fynd i'r afael â'r her o fyw bywyd yn foel" gan ddweud ei bod yn "falch" o'r penderfyniad hynny, gan "ailsefydlu" ei hun.
Er iddi ddisgrifio'r daith fel un "eithaf hir" wrth orfod "cyfarwyddo gweld rhywun newydd yn y drych" dywedodd: "Alla i ddim dweud 'mod i'n dioddef gyda fe [alopesia], dwi'n byw gyda fe."