Ymweliad y Brenin â'r Senedd mewn 90 eiliad
Mae'r Brenin Charles a'r Frenhines Camilla yn ymweld â Chymru ddydd Iau i nodi 25 mlynedd ers sefydlu Senedd Cymru.
Dyma ymweliad cyntaf y Brenin â'r Senedd ers ei daith o amgylch y DU yn dilyn ei esgyniad.
Derbyniodd y pâr brenhinol osgordd gan y Cymry Brenhinol cyn iddyn nhw gael eu cyfarch gan blant ysgol gynradd o bob rhan o Gymru, a chwrdd â Phrif Weinidog Cymru Vaughan Gething ac arweinwyr pleidiau a seneddol eraill yng Nghymru.
Bu Ysgol Treganna yn canu Safwn yn y Bwlch yn y siambr, ac fe siaradodd y Brenin ychydig o Gymraeg hefyd.