'Meddwl am chwarae yn Ewrop tra'n gorwedd yn yr ysbyty'

Mae chwaraewr canol cae Caernarfon yn dweud ei fod wedi meddwl am chwarae yn Ewrop tra'n gorwedd yn yr ysbyty yn derbyn triniaeth am ganser.

Cafodd Danny Gosset, sy'n dod o'r dref, wybod yn 2019 fod ganddo Non-Hodgkin Lymphoma, sef math o ganser y gwaed.

Wedi brwydr galed, yn gorfforol ac yn feddyliol, cafodd wybod yn Ionawr 2020 y byddai'n cael "gwellhad llwyr" o'r cyflwr.

Mae Gosset a gweddill carfan Caernarfon yn paratoi i wynebu Penybont yn rownd derfynol gemau ailgyfle'r Cymru Premier ddydd Sadwrn.

Bydd yr enillwyr yn hawlio'u lle yn rowndiau rhagbrofol Cyngres Europa - neu'r Europa Conference League - ac yn derbyn hwb ariannol o bron i £200,000.

Mewn cyfweliad â BBC Cymru, dywedodd Gosset y byddai hi'n "spesial" cyrraedd Ewrop ar ôl i ddoctoriaid ddweud wrtho nad oedd o'n debygol o allu chwarae fyth eto.