Gemau'r Gymanwlad 2026: Cynnwys 10 camp yn unig yn 'siom'
Mae gefeilliaid o Ddinbych sydd wedi cynrychioli Cymru yng Ngemau'r Gymanwlad wedi dweud ei bod yn "siom enfawr" gweld cynifer o gampau yn cael eu hepgor o'r gemau yn 2026.
Fe ddaeth cadarnhad mai Glasgow fydd cartref y Gemau yn 2026, wedi iddyn nhw gamu i'r adwy ar ôl i dalaith Victoria yn Awstralia dynnu nôl oherwydd cost cynnal y digwyddiad.
Ond bydd y Gemau tipyn yn wahanol yn 2026, gyda dim ond 10 camp yn rhan o'r digwyddiad.
Er bod campau megis nofio, athletau a phêl-rwyd wedi eu cynnwys, mae sawl camp heb eu cynnwys - fel hoci, triathlon a thenis bwrdd.
Fe wnaeth Angharad a'i hefaill Megan gystadlu yn y tenis bwrdd yng Ngemau'r Gymanwlad yn Delhi yn 2010 a Glasgow yn 2014, a dywedodd Angharad fod y digwyddiad yn uchelgais i gymaint o athletwyr ifanc.
Dywedodd Angharad: "Oedden ni'n arfer breuddwydio mynd i Gemau'r Gymanwlad, dyna uchafbwynt ein gyrfa ni," meddai.
"Dwi methu dychmygu pa mor siomedig ydyn nhw".
Roedd ei chwaer Megan yn cytuno fod y penderfyniad yn "siom enfawr".
Dywedodd ei fod yn "siom i unrhyw gamp i ddim cael ei gynnwys, ond yn enwedig chwaraeon fel tenis bwrdd sydd ddim yn aml yn cael ei ddangos ar lwyfan ryngwladol".