Ffwrnais chwyth ym Mhort Talbot yn cynhyrchu dur am y tro olaf

Bydd y ffwrnais chwyth ym Mhort Talbot yn cynhyrchu dur am y tro olaf ddydd Llun, gan ddod â'r dull traddodiadol o wneud dur yn ne Cymru i ben.

Mae disgwyl i Tata Steel echdynnu’r haearn hylifol olaf o ffwrnais chwyth 4 brynhawn Llun.

Mae cau’r ffwrneisi yng ngweithfeydd dur mwyaf y DU yn rhan o ailstrwythuro a fydd yn arwain at golli 2,800 o swyddi.

Bydd gwneud dur ym Mhort Talbot yn y dyfodol yn dibynnu ar fewnforion, cyn adeiladu ffwrnais drydan sy’n toddi dur sgrap.