'Be sy'n digwydd os does 'na ddim tai ar gael?'

Mae Reece Moss Owen yn 21 oed ac yn byw mewn fflat gyda chefnogaeth elusen GISDA yng Nghaernarfon.

Er bod Reece ar frig y rhestr fel blaenoriaeth, mae wedi bod yn aros i gael llety gyda'r cyngor ers dwy flynedd a hanner.

Dywedodd fod y sefylla yn "frustrating".

"Mae cael tŷ rhent yn gymaint o broblem anodd i bobl ifanc achos does dim digon o dai'n cael eu creu" meddai Reece.

"Ti'n sbïo fatha blynyddoedd yn ôl ac oedd digon o dai'n cael eu hadeiladu, ond nawr does dim digon o dai'n cal eu creu - nunlla'n agos i faint sydd eu hangan."