Callum Scott Howells: 'Lwcus' i gael portreadu Marcwis o Fôn

Mae ffilm newydd sy'n canolbwyntio ar un o Farcwisiaid mwyaf unigryw Ynys Môn yn cael ei ffilmio yng ngogledd Cymru ar hyn o bryd.

29 oed oedd Henry Cyril Paget, pumed Marcwis yr ynys, pan fu farw yn 1905.

Adeg ei farwolaeth, roedd yn fethdalwr ac fe adawodd ddyledion enfawr sy'n cyfateb i ryw £45 miliwn heddiw.

Mae stori'r pumed Marcwis yn cael ei hadlewyrchu mewn ffilm newydd sbon o'r enw ‘Madfabulous’.

Yr actor sydd fwyaf adnabyddus am actio yn y gyfres ‘It’s A Sin’, Callum Scott Howells o Dreorci, sy'n chwarae prif ran y Marcwis.

Wrth siarad â BBC Cymru, dywedodd yr actor ei fod yn teimlo'n "lwcus lwcus iawn" i chwarae'r cymeriad Henry yn y ffilm, gan ychwanegu fod y ffilm yn un "gyffrous".