Actor yn gobeithio am ysgol gyfun Gymraeg ym Mhowys
Mae Llywydd y Dydd ar ddiwrnod agoriadol Eisteddfod yr Urdd ym Maldwyn yn gobeithio y bydd ysgol gyfun Gymraeg yn dod i Bowys.
Yn siarad â Cymru Fyw ar faes yr Eisteddfod, dywedodd yr actor a'r canwr Steffan Harri mai ei obaith "ydy y bydd ysgol uwchradd gyflawn Cymraeg yn dod i'r sir yn y dyfodol".
Ar hyn o bryd does yna ddim ysgol uwchradd uniaith Gymraeg ym Mhowys.
"O'n i wastad yn eiddigeddus yn mynd i ymarferion Theatr yr Urdd yn cwrdd â pobl o ysgolion Syr Hugh [Caernarfon], Glantaf, Plasmawr [Caerdydd]," meddai.
"Oeddan nhw'n dangos i fi fod yr iaith ddim yn unig yn iaith y dosbarth ond yn iaith fyw.
"Ac hei lwc pan fydd [ei fab] Arthur yn dod i'r oedran [gobeithio] y bydd ysgol uwchradd gyfun Gymraeg yma ganddon ni yn y sir."