'Gwych' bod 'nôl ym Maldwyn wedi hir aros - Aeron Pughe

Mae'n "wych" bod Eisteddfod yr Urdd yn ôl ym Maldwyn wedi cyfnod hir o aros, meddai llywydd y dydd, Aeron Pughe.

Mae Meifod yn "ganolbwynt i Gymru" ar hyn o bryd, meddai'r actor a cherddor o Sir Drefaldwyn.

Soniodd hefyd am bwysigrwydd yr eisteddfod a'r sgiliau oes mae cystadlu yn rhoi i bobl ifanc.