Angharad James: 'Dwi mor falch o'r merched'
Enillodd Cymru eu gêm olaf ond un yn rowndiau rhagbrofol Euro 2025 yn erbyn Croatia nos Wener.
Wedi gêm gyfartal 2-2 yn erbyn Wcráin ym mis Mehefin, roedd angen buddugoliaeth ar dîm Rhian Wilkinson i leihau'r pwysau ar frig Grŵp B4.
Dywedodd un o'r chwaraewyr, Angharad James, bod y fuddugoliaeth yn "teimlo'n grêt" gan ychwanegu bod y tîm yn "gwybod roedd yn rhaid i ni gael y perfformiad heno".
Aeth ymlaen i sôn am y gemau diweddar: "Do' ni ddim 'di cael y perfformiad yn y ddwy gêm ddiwethaf felly i ddod yma yn y tywydd fel hyn a pherfformio fel y gwnaethom ni, mae'n dweud cymaint am y grŵp".
"Dwi mor falch o'r merched".