Côr Meibion yn syfrdanu priodferch ar ddiwrnod ei phriodas

Dyma'r foment y gwnaeth Emyr Myers synnu ei ddyweddi, Bethan, gyda pherfformiad arbennig gan Gôr Dathlu Cwmtawe cyn eu priodas yn Llangadog.

Roedd y cyfan yn gyfrinach, gydag Emyr yn esbonio ei fod wedi gorfod gosod y côr yn y gegin tra bod ei ddyweddi yn paratoi ar gyfer y diwrnod mawr.

Roedd tad-cu Emyr, Wyndham Williams - sy'n 94 oed - hefyd yn canu yn y côr.

Mae dros 300,000 o bobl wedi gwylio'r fideo ar y cyfryngau cymdeithasol erbyn hyn.

Dywedodd Emyr ei fod wedi dweud wrth aelodau'r côr eu bod nhw bellach yn "celebs".