'Therapi celf wedi bod yn syrpreis da'

Mae cynllun newydd yng Ngwynedd yn cynnig sesiynau celfyddydol i geisio cefnogi iechyd meddwl oedolion ifanc.

Y Stiwdio Lles ydy enw'r prosiect peilot sy'n rhoi cyfle i bobl ifanc fynd i'r afael â gorbryder a diffyg hyder mewn modd mwy creadigol.

Mae'r Stiwdio Lles yn bartneriaeth rhwng cwmni theatr Frân Wen, Celfyddydau Cymunedol Cyngor Gwynedd, Adran Llesiant Myfyrwyr Prifysgol Bangor, a Meddygfa Bodnant.

Mae'r gantores a'r bardd Casi Wyn yn un o'r artistiaid proffesiynol sydd wedi bod yn rhan o gynnal y sesiynau peilot ym Mangor ac un sydd wedi elwa o'r prosiect newydd ydy Ryan Scott Welham, myfyriwr 23 oed o Fangor.