Y Prif Weinidog am 'ganolbwyntio ar yr hyn sy'n bwysig i chi' yn 2025
Yn ei neges flwyddyn newydd, mae'r Prif Weinidog wedi dweud ei bod am barhau i "ganolbwyntio ar y pethau chi 'di dweud sydd fwyaf pwysig i chi".
Dywedodd Eluned Morgan y byddai cryfhau'r gwasanaeth iechyd a chreu swyddi yn flaenoriaeth.
"Rydym yn gwella ein trefniadau gofal iechyd er mwyn rhyddhau cleifion o'r ysbyty yn gynt a'u gweld nhw yn gyflymach, drwy leihau'r amseroedd aros," meddai.
"Ni eisiau sicrhau mai Cymru yw'r wlad lle mae swyddi a thwf gwyrdd yn tyfu gyflymaf.
"Rydym yn buddsoddi mewn mwy o brosiectau ynni cymunedol ac yn trawsnewid ein proses gynllunio i ddelifro prosiectau ynni gwyrdd yn gyflym iawn."
Yn ei neges gyntaf flwyddyn newydd fel Prif Weinidog, ychwanegodd Ms Morgan ei bod yn "gobeithio y bydd eleni yn dod â diwedd ar y gwrthdaro a'r trais ofnadwy sydd wedi ein dychryn ni i gyd".