Athrawon, doctors, heddlu - pobl o 'bob cefndir' yn defnyddio steroidau
Mae perchennog campfa a chorfflunydd o'r gogledd yn dweud nad ydy ffigyrau newydd am steroidau anabolig yn ei synnu ac nad ydy'r pwnc bellach yn "tabŵ".
Mae gwaith ymchwil newydd yn dangos fod 14% o ddynion Cymru wedi neu yn cymryd steroidau anabolig.
Mae Mark Humphreys, sy'n un o ddau gorfflunydd (bodybuilder) proffesiynol yng ngogledd Cymru, yn agored am y ffaith ei fod wedi cymryd rhai yn y gorffennol.
"Rŵan newch chi ddod i'r gym a clywed dau hogyn ifanc yn siarad hefo'i gilydd reit o flaen pawb arall am be' maen nhw'n gymyd," meddai.
Yn wreiddiol o Ynys Môn a bellach yn byw ym Methesda, mae Mark yn rhedeg campfa ei hun ym Mangor ac wedi mwynhau llwyddiant yn y gamp.
Dywedodd ei fod wedi cymryd steroidau ei hun yn y gorffennol, ond fod nifer y bobl sy'n eu defnyddio erbyn hyn yn ddychrynllyd.