Tanau Los Angeles: 'Ma' hi fel war-zone allan yna'

Mae un o'r Cymry sy'n byw yn Los Angeles, Rhinallt Williams, yn ystyried ei hun yn lwcus o fod wedi osgoi canlyniadau gwaethaf y tanau gwyllt mewn rhannau o Los Angeles yn y dyddiau diwethaf.

Dywed bod un o'i ffrindiau wedi colli ei thŷ i'r fflamau yn ardal Pacific Palisades.

Ond mae'r sefyllfa wedi achosi iddo gau'r bar mae'n ei redeg o fewn milltir i ffordd enwog Sunset Boulevard - ardal y cafodd pobl orchymyd i'w gadael cyn i'r tân ledu yno.

Er nad yw'r fflamau heb gyffwrdd yn y bar ei hun, does dim sicrwydd a yw'n ddiogel ar hyn o bryd i'w agor i'r cyhoedd.