'Rhaid cofio ei bod hi'n gynnar iawn yn y tymor' – Elfyn Evans

Mae Elfyn Evans yn dweud ei bod hi'n llawer rhy gynnar yn y tymor i ddechrau breuddwydio am ennill Pencampwriaeth Rali'r Byd.

Mae'r Cymro yn arwain y bencampwriaeth o 36 pwynt ar ôl y tair rali gyntaf – ar ôl gorffen yn ail yn Monte Carlo ar benwythnos cyntaf y tymor mae o wedi ennill ralis Sweden a Kenya.

Mae Elfyn yn gobeithio cael ei goroni yn bencampwr y byd am y tro cyntaf yn ei yrfa ar ôl gorffen yn ail bedair gwaith yn y gorffennol.