Annette Bryn Parri: 'Da ni wedi colli ffrind ac un o Hogia'r Wyddfa'
Wrth roi teyrnged i'r diweddar Annette Bryn Parri, dywedodd Arwel Jones ei fod "wedi colli ffrind" ac "wedi colli un o aelodau Hogia'r Wyddfa".
Bu farw'r gyfeilyddes a'r hyfforddwraig o Ddeiniolen yn 62 oed.
Bu'n gyfeilydd i nifer o sêr - yn eu plith Bryn Terfel, Aled Jones, Rebecca Evans, Eirian James, Rhys Meirion, Gwyn Hughes Jones a Leah Marian Jones.
Bu hefyd yn chwarae gyda Hogia'r Wyddfa am flynyddoedd.
Mewn cyfweliad ddydd Mercher, dywedodd Arwel Jones - un o aelodau Hogiau'r Wyddfa - na fyddai Annette "fyth eisiau cael ei hadnabod fel cyfeilydd i Hogiau'r Wyddfa... roedd hi'n un o Hogia'r Wyddfa ac roedd hi wrth ei bodd yn dweud hynny".
"Roedd hi'n berson arbennig, down to earth fel dywed y Sais, a dyna oedd Annette."