'Ffantastig' gweld clip o barti bechgyn 1988 - Jeremy Miles
Mae Jeremy Miles AS wedi dweud ei bod yn "anrhydedd" cael bod yn Llywydd ar Eisteddfod yr Urdd eleni ym Mhort Talbot.
Ond dyw mynd i'r Eisteddfod ddim yn rhywbeth dieithr i Mr Miles...
Cafodd yr Ysgrifennydd Iechyd syndod o weld hen glip o'i hun yn cystadlu gyda pharti bechgyn Ysgol Gyfun Ystalyfera yn 1988.
"Oedd e'n ffantastig i weld yr holl bobl," meddai am weld wynebau ei gyd-ddisgyblion, gan ddweud iddo gofio geiriau'r gân - er y blynyddoedd lawer ers ei chanu.