Dim amheuaeth dros dystiolaeth Letby, medd arbenigwr

Mae tyst arbenigol o Gymru yn achos y llofrudd Lucy Letby wedi ymateb i feirniadaeth o'i dystiolaeth fel sylwadau "di-sail".

Mewn cynhadledd newyddion ddydd Llun, fe ddatgelodd tîm cyfreithiol y nyrs uned babanod newydd-anedig eu bod am ofyn i'r Llys Apêl adolygu ei holl euogfarnau.

Fe wnaethon nhw honni bod prif dyst arbenigol yr erlyniad, y cyn-ymgynghorydd pediatrig Dr Dewi Evans, wedi newid ei farn ynghylch sut y bu farw tri babi yn Ysbyty Countess of Chester rhwng 2015 a 2016.

Yn siarad ddydd Mawrth, dywedodd Dr Evans na chafodd rybudd ffurfiol ynghylch eu cyhoeddiad nag unrhyw ohebiaeth gan fargyfreithiwr Letby, Mark McDonald, nag unrhyw aelod o'i dîm.

Dywedodd wrth BBC Cymru bod yr honiadau'n "hollol ryfeddol" ac yn "anghywir".