Cynllun mentora yn rhoi 'dechrau da i fandiau newydd'
Mae pobl ifanc wedi dweud fod gwyliau cerddorol Cymraeg yn "bwysig iawn" i gynnig cyfleoedd i gerddorion ifanc.
Daw hyn ar ôl i Fenter Caerdydd ddweud fod diffyg bandiau Cymraeg yn cael eu meithrin yn y brifddinas.
Mae disgwyl i ŵyl Tafwyl ddenu torfeydd mawr i Barc Bute dros y penwythnos, a bydd nifer o fandiau newydd yn cael y cyfle i berfformio yno.
Ers 2021 mae Menter Caerdydd, trefnwyr yr ŵyl, wedi bod yn mentora'r genhedlaeth nesaf o fandiau trwy eu rhaglen Yn Cyflwyno.
Bu rhai o'r rheiny sy'n rhan o'r cynllun yn siarad â BBC Cymru yn rhannu eu hargraffiadau nhw ohono.