Dynion dal yn marw 'heb eisiau' medd milwr D-Day

Mae un o filwyr D-Day wedi dweud ei fod yn "siomedig iawn" i weld fod rhyfela'n parhau yn y byd 80 mlynedd ar ôl yr ymosodiad hanesyddol.

Dywedodd Neville Bowen o bentref Penybanc, Rhydaman, sy'n troi'n 102 ym mis Medi: "Mae'r byd wedi mynd yn ffradach, mae gormod o ryfela yn mynd ymlaen a mae dynion yn colli ei bywyd heb eisiau."

"I beth mae nhw wedi colli ei bywyd? Sai'n credu fod nhw wedi gaino ddim byd. Mae rhyfela'n mynd ymlaen o hyd a mae pobl yn cael eu lladd."