Tân gwair mawr yn llosgi ger cartrefi yn Llandudno

Mae tân gwair ger cartrefi yn Llandudno wedi bod yn llosgi ers prynhawn Mawrth.

Cafodd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru eu galw i'r tân tu ôl i Glwb Golff Maes Du ar Fynydd y Cwm am 12:56 dydd Mawrth.

Dywedodd llefarydd bod criwiau o Landudno, Bae Colwyn, Dinbych, Treffynnon a'r Rhyl, yn ogystal ag unedau tanau gwair o Abergele wedi cael eu gyrru yno.

Mae'r gwasanaeth tân wedi gofyn i bobl osgoi'r ardal, ac i bobl yn Llandudno i gau eu ffenestri a'u drysau.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.