'Sŵn Llwyfan y Maes yn tarfu ar y Pafiliwn'

Mae sawl arweinydd côr adnabyddus wedi galw ar yr Eisteddfod i wella'r trefniadau rhwng Llwyfan y Maes a'r pafiliwn.

Daw hyn wrth i sŵn llwyfan y maes gael ei glywed yn amlwg yn y pafiliwn yn ystod cystadlaethau’r corau gyda'r nos.

Dywedodd Eilir Owen Griffiths, arweinydd côr CF1 fod y sefyllfa yn "annheg" ar y cystadleuwyr.

Dywedodd prif weithredwr yr Eisteddfod, Betsan Moses bod "trafodaethau rhwng y ddau ac os yw'r lefelau yn amharu, mae 'na fodd i holi Llwyfan y Maes ar gyfer newidiadau".