Y Coridor Ansicrwydd: Pwy all achub Caerdydd?

Mwyaf sydyn, dwy gêm sy'n weddill gan Gaerdydd i achub eu tymor - ond mae eu tynged allan o ddwylo eu hunain.

Mae'r Adar Gleision driphwynt o ddiogelwch ar hyn o bryd, ac yn eistedd un safle o waelod y Bencampwriaeth. Dim ond gwahaniaeth goliau sy'n golygu nad ydynt ar y gwaelod.

Mae'r perchennog Vincent Tan wedi diswyddo'r rheolwr Omer Riza a throi at Aaron Ramsey er mwyn ceisio osgoi disgyn i'r Adran Gyntaf, ond ydi hi'n rhy hwyr i newid trywydd truenus y clwb?

"Mae hyder o fewn pêl-droed pan ti tuag at y gwaelodion fatha salwch," meddai cyn chwaraewr canol cae Cymru Owain Tudur Jones ar y bennod ddiweddaraf o'r podlediad pêl-droed Y Coridor Ansicrwydd.

"Mae o'n cymryd drosodd mewn ystafell newid. Dwi ddim yn gwybod pwy fydd yr ysbrydoliaeth ar y cae," meddai.

West Bromwich Albion ydi gwrthwynebwyr nesaf Caerdydd yn Stadiwm Dinas Caerdydd ddydd Sadwrn, gyda thaith i Norwich i ddilyn. Mae'r ddau glwb yna newydd ddiswyddo rheolwyr hefyd, a does ganddyn nhw ddim byd i frwydro drosto erbyn hyn.

"Mae'n drist gweld tîm y brifddinas yn edrych bod nhw'n mynd i lawr," ategodd cyn-flaenwr Cymru Malcolm Allen.

"A gweld y craciau 'ma i gyd o'r top i'r gwaelod. Dydi hi ddim yn sefyllfa sefydlog yna. Pob lwc i Aaron Ramsey yn y ddwy gêm nesaf yma."