Dringwyr yn casglu 2,700 eitem o sbwriel ar Yr Wyddfa

Mae gwirfoddolwyr a dringwyr wedi casglu dros 2,700 o eitemau o sbwriel ar Yr Wyddfa mewn ymgyrch ddiweddar.

Dywedodd mudiad Trash Free Trails fod dros 800 o boteli plastig wedi'u casglu yn ystod yr ymgyrch chwe awr o hyd y penwythnos diwethaf.

Ychwanegon nhw fod 62% o'r eitemau a gafodd eu casglu yn rhai y mae modd eu defnyddio unwaith yn unig.