'Fy mwriad ydy gadael yr ynys ond dod yn ôl pan mae'r amser yn iawn'
Mae ffigyrau diweddar yn dangos bod cyfradd geni Ynys Môn wedi dirywio'n arw.
Erbyn hyn mae oed cyfartalog yr ynys wedi codi i 48, o'i gymharu â'r cyfartaledd ar draws Cymru o 42.
Mae'r cyngor sir yn cydnabod y peryglon o fod â phoblogaeth sy'n brysur heneiddio.
Maen nhw'n dweud hefyd nad oes digon o swyddi i gadw neu ddenu pobl ifanc yn ôl.
Gyda nifer y disgyblion wedi disgyn "yn sylweddol" mewn rhai rhannau o'r ynys, fe lansiodd y cyngor ymgynghoriad diweddar i ddyfodol y ddarpariaeth addysg ôl-16.
Mae Mai a Daisy, o Ysgol Uwchradd Bodedern, yn bwriadu gadael ond dychwelyd i'r ynys pan maen nhw'n hŷn.