Cyfarwyddwr Gŵyl Ffilm Iris: 'Ofnadwy o lwcus fy mod i dal yma'
Mae Cyfarwyddwr Gŵyl Ffilm Iris, Berwyn Rowlands, wedi dweud ei fod yn lwcus o fod yma ar ôl cyfnod o salwch "difrifol wael".
Sefydlodd Berwyn Rowlands Wobr Iris 16 o flynyddoedd yn ôl. Mae'r ŵyl yn dathlu ffilmiau LHDTC+.
Wrth siarad ar raglen Dros Frecwast, dywedodd “o'dd yr arwyddion i gyd yna” ond fe ddiystyrodd beth oedd yn digwydd iddo.
Bu’n rhaid i Berwyn dreulio cyfnod o bedwar mis yn yr ysbyty lle gafodd bedair lawdriniaeth i gael gwared ar ddarnau marw o’r pancreas.
Tra yn yr ysbyty, collodd Berwyn bron i draean o’i bwysau ac fe wnaeth ei gyhyrau wanhau gymaint fel bod yn rhaid iddo ddysgu sut i gerdded eto.
“Allai ddweud yn bendant, bydden i ddim yma heddiw oni bai am y gwasanaeth iechyd.
"Rwy'n ofnadwy o lwcus a ffodus fy mod i dal yma."