Clywed llais fy mab, 5, am y tro cyntaf yn 'foment emosiynol iawn'

Mae'r cyflwynydd Rhydian Bowen Phillips wedi siarad am y profiad o glywed ei fab, Teifi, yn siarad am y tro cyntaf.

Cafodd Teifi ddiagnosis o awtistiaeth yn 18 mis oed felly nid yw erioed wedi dechrau siarad.

Y penwythnos diwethaf fe wnaeth Teifi, sy'n bump oed, ddarganfod ei lais wrth ddysgu enwau lliwiau gyda'i fam, Chel.

Fe rannodd y pâr priod bost emosiynol ar Instagram gan ddweud fod clywed ei lais "yn wirioneddol anhygoel".